Digarbon - The decarbonisation fund for tertiary education in Wales

Announced

Llanddwyn (Tŵr Mawr, meaning great tower in Welsh) lighthouse on Anglesey, Wales By U-JINN Photography

Sector eligibility

Announced:

Region:

Wales

About the scheme

New £20m loan scheme to accelerate decarbonisation in education sector is announced for Wales. Welsh Government reveals fund, DIGARBON,  to help tertiary sector meet net zero goals 

We are delighted to announce £20 million of funding from the Welsh Government, for Digarbon,  the decarbonisation fund for tertiary education in Wales.

The fund called Digarbon, will open for applications in summer 2024 to support decarbonisation projects in the Welsh higher and further education sectors setting them on the road to net zero. It will be delivered by Salix.

Salix Chief Executive Emma Clancy said: “We are delighted to work with the Welsh Government on this new fund.

 

“It means Welsh universities and further education colleges can take significant steps in their net zero journey ensuring their buildings are future proofed.
“The Welsh Government has set out plans for a carbon net zero public sector in Wales by 2030, and at Salix we’re privileged to be part of that journey.”

 

Digarbon,  which means decarbonise, is loan funding for which an interest rate of 2.05% will be applied.

Further information and supporting documentation including Guidance Notes and the application form will be published in spring 2024. Salix will also be running webinars on 21 May and 23 May and these events will provide an opportunity to ask questions about the fund.

Under the fund, a range of technologies will be eligible including the installation of low carbon heating systems and retrofit energy efficiency measures. A ‘whole building’ approach will be encouraged, aimed at reducing the overall energy demand of a building. Renewable energy, electric vehicles and EV charging infrastructure will also be eligible for funding in combination with heat decarbonisation measures.

The initiative addresses the need to prepare the Welsh public sector for achieving net zero emissions, as laid out in Net zero carbon status by 2030: A route map for decarbonisation across the Welsh public sector.

Please keep an eye on our website for the latest information and subscribe to our email updates.

 

________________

 

Cyhoeddi cynllun benthyciad newydd gwerth £20m i gyflymu datgarboneiddio yn y sector addysg yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cronfa newydd, DIGARBON, i helpu’r sector trydyddol i gyflawni uchelgeisiau sero net.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi £20 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer DIGARBON, y gronfa ddatgarboneiddio ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru.

Bydd y gronfa a elwir yn Digarbon, yn agor ar gyfer ceisiadau yn haf 2024 i gefnogi prosiectau datgarboneiddio yn y sectorau addysg uwch a phellach yng Nghymru gan eu gosod ar y ffordd i sero net. Bydd yn cael ei gyflawni gan Salix. 

Dywedodd Prif Weithredwr Salix, Emma Clancy: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y gronfa newydd hon.

“Mae’n golygu y gall prifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru gymryd camau sylweddol yn eu taith sero net gan sicrhau bod eu hadeiladau’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynlluniau ar gyfer sector cyhoeddus sero carbon net yng Nghymru erbyn 2030, ac yn Salix mae’n fraint i ni fod yn rhan o’r daith honno.”

Mae Digarbon yn gyllid benthyciad y bydd cyfradd llog o 2.05% yn cael ei gymhwyso ar ei gyfer.

Bydd rhagor o wybodaeth a dogfennaeth ategol gan gynnwys Nodiadau Cyfarwyddyd a’r ffurflen gais yn cael eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2024.

Bydd Salix hefyd yn cynnal gweminarau ar 21 Mai a 23 Mai a bydd y rhain yn gyfle i ofyn cwestiynau am y gronfa.

O dan y gronfa, bydd amrywiaeth o dechnolegau yn gymwys gan gynnwys gosod systemau gwresogi carbon isel ac ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni. Bydd dull ‘adeilad cyfan’ yn cael ei annog, gyda’r nod o leihau’r galw cyffredinol am ynni mewn adeilad. Bydd ynni adnewyddadwy, cerbydau trydan a seilwaith gwefru cerbydau trydan hefyd yn gymwys i gael cyllid ar y cyd â mesurau datgarboneiddio gwres.

Mae'r fenter yn mynd i'r afael â'r angen i baratoi sector cyhoeddus Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net, fel y nodir yn Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd sector cyhoeddus Cymru.

Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf a thanysgrifiwch i ddiweddariadau e-bost.