Y Gweinidog Newid Hinsawdd yn agor datblygiad solar trydan gwyrdd Brifysgol Aberystwyth

Aberystwyth University’s solar array

Mae arae solar sy’n cynhyrchu o leiaf chwarter y trydan sydd ei angen ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth wedi’i hagor yn swyddogol heddiw (ddydd Iau 9 Mawrth 2023) gan Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS.

Disgwylir i’r datblygiad trydan gwyrdd leihau allyriadau carbon y Brifysgol o dros 500 tunnell y flwyddyn yn ogystal â chyflawni arbedion cost ynni blynyddol o dros £450,000 yn seiliedig ar brisiau cyfredol.

Mae’r arae’n gorchuddio 3.8 hectar o dir sy’n eiddo i’r Brifysgol ar Fferm Penglais ac yn cynnwys tua 4,500 o baneli solar unigol.

Dywedodd Joan Dayap, Rheolwr Rhaglen, Tîm Cymru Salix Finance: “Mae Salix yn falch o gefnogi Prifysgol Aberystwyth i ddatgarboneiddio ei hystâd gyda £2.6m o gyllid gan Raglen Gyllido Cymru, a ddarperir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Bydd yr arae PV Solar yn cynhyrchu arbedion ariannol i'r Brifysgol o dros £450,000 ar brisiau ynni cyfredol a mwy na 500 tunnell o garbon yn flynyddol. Mae’r Brifysgol yn enghraifft wych o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ar draws y sector addysg yng Nghymru, gan chwarae rhan hanfodol yn nhaith y genedl tuat at sero net.”

Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James: “Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Aberystwyth wedi bwrw ymlaen gyda’r datblygiad solar hwn. Mae’r cymorth technegol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a’r cyllid di-log o Raglen Ariannu Cymru sy’n cael ei gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru gan Salix Finance Ltd, wedi bod yn hanfodol i gyflawni’r cynllun.

“Mewn cyfnodau o brisiau trydan uchel, mi fydd yr adenillion ar y buddsoddiad hwn hyd yn oed yn fwy nag a ragwelwyd. Mae’r ffordd y mae’r cynllun wedi cyflawni ei amcanion yn dangos unwaith eto y gall buddsoddi mewn ynni glân arwain at arbedion ariannol a charbon, a hybu bioamrywiaeth.”

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd Prifysgol Aberystwyth: “Fel Prifysgol rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd mewn cymaint o ffyrdd â phosibl. Fe wnawn ni hynny nid yn unig drwy gyfrwng ein hymchwil a'n haddysgu ond hefyd drwy ein hamcanion strategol sefydliadol. Mae’r arae solar hon yn garreg filltir allweddol arall tuag at nod y Brifysgol o ddod yn ystâd ddi-garbon erbyn 2030/31 ac rydym yn ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r datblygiad pwysig hwn.”

Dywedodd Mark Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau gyda Vital Energi: “Mae’n fraint gweithio ochr yn ochr â sefydliadau sector cyhoeddus, megis Prifysgol Aberystwyth, i’w helpu i gyrraedd eu targedau sero net ac rydym wrth ein bodd bod dau gam cyntaf ein gwaith gyda nhw wedi cael effaith mor gadarnhaol o ran lleihau eu hallyriadau a'u biliau ynni. Roedd yr arae solar yn fuddsoddiad sylweddol gan y Brifysgol i gyflawni prosiect arloesol ac rydym yn siŵr y bydd yn ysbrydoliaeth i sefydliadau eraill sydd am ddatgarboneiddio.”

Yn ogystal â’r prosiect solar ar Fferm Penglais, mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu ystod o gymorth technegol a masnachol i helpu i nodi, datblygu a chyflawni prosiectau gwyrdd addas.

Yn 2020, ymunodd y Brifysgol â chonsortiwm o brifysgolion y DU i daro bargen ynni gwyrdd nodedig gwerth £50m - y tro cyntaf i ddefnyddwyr ynni cyhoeddus gydweithio ar fargen o'r math hwn i brynu trydan glân.